Mae’r Pwyllgor yn cyflwyno’r adroddiad a ganlyn i’r Cynulliad:
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Negyddol
CLA47 – Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) (Diwygio) 2011
Y weithdrefn: Negyddol.
Fe’u gwnaed: 18 Hydref 2011
Fe’u gosodwyd: 18 Hydref 2011
Yn dod i rym ar: 8 Tachwedd 2011
Busnes arall
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Addysg
Trafododd y Pwyllgor bapur gan Gynghorwyr Cyfreithiol y Pwyllgor ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer diwygiadau i’r Bil Addysg, a osodwyd gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau. Cyfeiriodd y papur hefyd at Ddatganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30 ynghylch y pwerau y mae’n eu hargymell i’w rhoi i Weinidogion Cymru drwy’r Bil Lleoliaeth.
Nododd y Pwyllgor y byddai’r diwygiadau i’r Bil Addysg yn rhoi’r pwerau i Weinidogion Cymru ddeddfu mewn rhai materion sylweddol, ond bod y Bil wedi symud ymlaen i’r fath raddau nad oedd yn caniatáu i’r Cynulliad graffu arno mewn manylder.
Cytunodd y Pwyllgor y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn seiliedig ar y materion a nodir yn y papur a thrafodaeth y Pwyllgor. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gyflwyno’r llythyr i sylw Aelodau’r Cynulliad i lywio’r drafodaeth ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Tachwedd.
Gohebiaeth y Pwyllgor
CLA36 – Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlenni 5 ac 8) (Cymru a Lloegr) 2011
Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog i lythyr y Cadeirydd dyddiedig 27 Medi 2011 ar rinweddau Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlenni 5 ac 8) (Cymru a Lloegr) 2011.
CLA37 – Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) 2011
Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog i lythyr y Cadeirydd dyddiedig 27 Medi 2011, a oedd yn mynegi pryder bod y Rheoliadau wedi cael eu gosod yn agos iawn at y dyddiad dod i rym ar gyfer polisi newydd mor bwysig a hysbysodd y Gweinidog am adroddiad y Pwyllgor ynghylch rhinweddau Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) 2011.
Ymchwiliadau’r Pwyllgor: Ymchwiliad i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Alan Trench, Uwch Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus, yr Uned Gyfansoddiadol, Coleg Prifysgol Llundain.
Penderfyniad i gwrdd yn breifat
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi) penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod i drafod y dystiolaeth a gyflwynwyd hyd yn hyn i’r Ymchwiliad i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU.
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol